piSCES

Systemau Ynni Clwstwr Clyfar i’r diwydiant prosesu pysgod

 

Bydd technolegau grid clyfar yn y pen draw yn lleihau costau ac ôl-droed carbon Rhwydweithiau Ynni yn y diwydiant prosesu pysgod. Bydd technoleg piSCES yn cyflenwi’r deallusrwydd i integreiddio gyda’r farchnad a chymhwyso arbitrais i sbarduno refeniw.
Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar arloesedd a throsglwyddo gwybodaeth drawsffiniol i ddiwydiannau gwledig drwy gydweithio i gryfhau ymchwil ac arloesedd. Mae proseswyr pysgod yn wynebu llawer o rwystrau gan gynnwys pellter o’r farchnad, mynediad at ymchwil a datblygu a thechnoleg a diffyg personél gyda sgiliau uchel. Bydd piSCES yn rhoi’r deallusrwydd a’r rheolaeth i’r diwydiant fydd yn eu hwyluso i ddod yn gynhyrchwyr a defnyddwyr ynni. Bydd cydweithio gyda phartneriaid ymchwil a datblygu yn eu hamlygu i dechnoleg arloesol nad oedd modd iddynt fanteisio llawer arni’n flaenorol, os o gwbl. Bydd gweithredu ynni adnewyddadwy gyda’r dechnoleg hon yn eu galluogi i fod yn berchen ar eu proffil ynni eu hunain, lleihau eu costau sylfaenol, a bod yn fwy cystadleuol. Drwy fod yn arloesol a chydweithio, gellir troi’r rhwystrau hyn er mantais iddynt, ac yn y pen draw bydd hyn yn gwella eu cynaladwyedd ac yn cynnig strwythur cadarn i ganiatáu iddynt dyfu i’r dyfodol.
Mae’r diwydiannau hyn yn hanfodol i’r ardaloedd gwledig hyn ac wrth iddynt gryfhau bydd modd iddynt gynnal eu staff a denu gwaed a gwybodaeth newydd i’w rhanbarth. Gall hyn fod yn gnewyllyn rhanbarth bywiog ac fel arweinwyr yn yr economi carbon isel newydd gall fod yn rhan o’r grid clyfar yn y dyfodol.

Amcanion y prosiect:

  • Modelu a gweithredu grid micro ar un safle ynni uchel yng Nghymru ac Iwerddon i archwilio a gwella effeithlonrwydd drwy ddefnyddio technolegau grid clyfar a
    thrwy wneud hynny, annog defnydd o gynhyrchion a phrosesau newydd ymhlith partneriaid a BBaChau cysylltiedig ar draws y ddau ranbarth
  •  Cymharu a chyferbynnu’r cynhyrchion mewn perthynas â’r marchnadoedd ynni, enillion economaidd ac amodau deddfwriaethol a thrwy hynny hyrwyddo cyfnewid athrosglwyddo drwy gydweithio ar ymchwil ar draws ffiniau rhwng BBaChau a SAUau
  •  Gwireddu’r capasiti hyblyg cynhenid sydd yn y rhwydweithiau hyn a sbarduno’r ased i wireddu enillion economaidd i bartneriaid sy’n cyfranogi a’r rhanbarth gan gynnwys posibilrwydd o fuddsoddiadau ychwanegol
  • Ymchwilio tueddiadau’r dyfodol mewn perthynas â chyfarwyddebau’r UE, sydd â’r nod o waredu rhwystrau yn y farchnad ynni, drwy gysylltu a sbarduno rhwydwaith o safleoedd gwasgaredig a’u cronni ar grid micro, gan arwain at effeithiau economaidd ehangach o fewn y sector ac yn rhyngwladol
  • Ymchwilio model sy’n integreiddio technolegau ynni adnewyddadwy yn y rhwydweithiau hyn gan arwain at ddefnydd o’r cynhyrchion a’r prosesau gan BBaChau

Prosiect interreg yw piSCES sy’n cael cefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Cydweithio Iwerddon Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i irelandwales.eu

Partneriaid y Prosiect:
Ymchwilio a datblygu’r dechnoleg:

  1.  Waterford Institute of Technology drwy ei adran ymchwil TGCh TSSG, fydd yn arwain y gwaith
  2.  Mae Prifysgol Caerdydd yn bwriadu ymchwilio, cynllunio a datblygu rhwydweithiau grid micro ar y cyd â chanolfannau cynhyrchu yn Iwerddon a Chymru

Partneriaid gweithredu:

  1.  Bord Iascaigh Mhara – Maent yn cydweithio’n agos gyda’r holl randdeiliaid yn y diwydiant pysgota ac yn hynod o ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r sector oran sgiliau ac arloesedd, costau gweithredu ac ynni, pellter o’r farchnad ac ati. Mae cyswllt agos rhwng amcanion piSCES a BIM a nhw yw’r partner delfrydol iddarparu mynediad a chymorth i’r grŵp hwn
  2. Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau – Yn eu cylch gwaith ceir offer arae solar 5MW ar safle drws nesaf i’r porthladd sydd ar hyn o bryd yn gysylltiedig â’rgrid yn uniongyrchol. Bydd integreiddio’r ased hwn i fatrics ynni’r porthladd yn arwain at fanteision allweddol ac mae’n un o amcanion canolog strategaeth MHPA. Bydd cynnyrch piSCES yn helpu i wireddu’r nod hwn.
  3.  Rhanddeiliaid o’r diwydiant prosesu pysgod, y diwydiant technoleg grid clyfar a chyrff llywodraethol cysylltiedig

Cyswllt:

Enw Sefydliad Ebost Rhif Cyswllt
Sean Lyons Waterford Institute of Technology slyons@tssg.org 00 353 51 302761
Yacine Rezgui Prifysgol Caerdydd Rezguiy@caerdydd.ac.uk 0044 2920 875719
Tim James Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau Tim.james@mhpa.co.uk 0044 1646 696391
Tomas Cooper Bord Iascaigh Mhara Tomas.cooper@bim.ie 00 353 1 2144271